Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru

 

CP 1 – UCM Cymru

 

Tystiolaeth i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfraniad fferyllfeydd cymunedol at wasanaethau iechyd a lles yng Nghymru

 

 

Cefndir i UCM Cymru

 

Mae UCMC yn ffederasiwn o fudiadau myfyrwyr lleol yng Nghymru, yn cynnwys 30 o gymdeithasau myfyrwyr ar gampysau, sydd wedi ymaelodi ag Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr y Deyrnas Unedig (UCM).  Mae UCMC yn rhan hunan-reolus, ond annatod, o Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.

 

Ein rôl yw cynrychioli polisïau a osodir gan yr undebau myfyrwyr sydd mewn aelodaeth o UCMC – mae eu barn hwy yn fynegiant o safbwyntiau’r myfyrwyr ar eu campysau.  Felly mae UCMC yn cynrychioli barn a dyheadau yr holl fyfyrwyr sydd wedi matricwleiddio, sy’n mynychu sefydliadau addysg bellach ac uwch.  Tra bod aelodaeth yn agored i ddarparwyr addysg preifat, mae ein haelodaeth presennol o ran myfyrwyr addysg bellach yn gyfyngedig i’r rheiny sy’n mynychu colegau yng Nghymru, gan gynnwys dysgwyr rhan-amser, y rheiny a gaiff eu hariannu’r breifat a dysgwyr yn y gweithle.

 

Felly, tra gall UCMC siarad gydag awdurdod ynglŷn â barn myfyrwyr mewn colegau a phrifysgolion, ni allwn ond dyfalu ynglŷn ag anghenion a dyheadau myfyrwyr sy’n mynychu darparwyr addysg eraill.  Os oes yno’r ewyllys i UCMC ddarparu gwasanaeth i’r rheiny nad ydynt ar hyn o bryd mewn aelodaeth, bydd angen cynnal trafodaethau pellach gyda’r corff perthnasol i sicrhau fod y ffiniau priodol mewn lle.

 

Mae UCMC yn gweithio gyda’n haelodau i hyrwyddo, amddiffyn ac ymestyn hawliau myfyrwyr yng Nghymru.  ‘Rydym yn un o’r rhanddeiliaid allweddol mewn datblygu polisi cyhoeddus ac ‘rydym yn ymgymryd â gweithgareddau cadarnhaol i hyrwyddo lles myfyrwyr oll. 

 

Ynghyd â’n haelodau, ‘rydym yn gweithio i hyrwyddo ymgysylltiad cadarnhaol gan fyfyrwyr o fewn i fudiad y myfyrwyr a thu hwnt.  Mae’r undebau myfyrwyr sy’n perthyn i UCM yn parhau i fod yn hunan-reolus o ran meysydd polisi.  Mae UCMC yn gweithredu fforwm ddemocrataidd ar gyfer polisi a thrafodaeth ar faterion cenedlaethol sy’n effeithio ar fyfyrwyr, a rôl UCMC yw adlewyrchu’r safbwynt cyfunol.

 

Mae UCM Cymru wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid yn y sector addysg bellach ac uwch ers 1974 ac mae wedi hen ennill ei blwyf fel llais myfyrwyr yng Nghymru

 

 

Cefndir i’r Ymgyrch LHDT

 

Mae Ymgyrch LHDT UCMC yn gorff o fewn i Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru sy’n cynrychioli 30 o sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch.  Mae Ymgyrch LHDT UCMC yn cynnwys swyddog a phwyllgor a etholir yn ddemocrataidd yn eu cynhadledd flynyddol a gynhelir yn nhymor y gwanwyn.  Mae’r Pwyllgor LHDT yn bodoli fel corff i gynrychioli myfyrwyr Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws mewn sefydliadau yng Nghymru.  Fel llais myfyrwyr LHDT yng Nghymru, ein nod yw sicrhau fod myfyrwyr, yn ystod y cyfnod y byddant yn astudio, yn derbyn y gefnogaeth orau posibl a’u bod yn mwynhau profiad myfyrwyr o’r un ansawdd â phob myfyriwr arall.  Mae hyn yn cynnwys sicrhau y gallant fyw yn rhydd o unrhyw gamwahaniaethu ar sail eu rhywioldeb neu hunaniaeth rywiol.

 

Cynrychiolaeth gan yr Ymgyrch LHDT

 

Mae adborth ansoddol gan ein haelodau yn awgrymu nad yw gwybodaeth am iechyd rhywiol LHDT ar gael yn hawdd mewn ardaloedd gwledig, er gwaethaf gofynion deddfwriaethol a amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, yn arbennig adrannau 26 a 29 o’r Ddeddf sy’n ymdrin ag aflonyddu a’r ddarpariaeth o wasanaethau.  ‘Rydym yn cael ar ddeall mai bwriad y Ddeddf oedd sicrhau y byddai llenyddiaeth o’r fath ar gael yn gyfleus i bobl LHDT.

 

Sut mae’r diffyg darpariaeth yn effeithio ar fyfyrwyr?

 

Mae yno dystiolaeth eang fod y mwyafrif o boblogaeth y myfyrwyr yn cael rhyw.  Mae hyn hefyd yn wir o ran pobl LHDT, serch hynny, nid yw’r wybodaeth sydd ar gael mewn ardaloedd mwy gwledig o Gymru yn cwrdd ag anghenion myfyrwyr LHDT, gan felly o bosibl arwain at gynnydd mewn gweithgareddau nad ydynt yn ddiogel.  Mae’r myfyrwyr a gynrychiolir gan yr Ymgyrch LHDT o bob oedran ac maent yn mynychu cyrsiau mewn sefydliadau addysg bellach ac uwch ledled Cymru.  Mae llawer o’r sefydliadau hyn mewn ardaloedd gwledig lle nad oes cefnogaeth ac adnoddau yn bodoli ar gyfer pobl LHDT.  Mae’n debygol fod hyn hefyd yn wir am y boblogaeth LHDT yn gyffredinol yn yr ardaloedd hyn, sydd heb y lefel briodol o gefnogaeth, a all arwain at risg i iechyd, boed iechyd rhywiol neu les pobl yn gyffredinol.

 

Mae Cynllun Gweithredu Iechyd a Lles Rhywiol ar gyfer Cymru 2010-2015 yn nodi: “Mewn cyfnod o gyni ariannol, mae’n bwysig nodi fod atal […] Heintiau a Drosglwyddir drwy Ryw (HDR) yn darparu gwerth da am arian i’r gwasanaeth Iechyd Gwladol.” Mae’n mynd ymlaen i ddweud fod yno “nifer o ddarparwyr a ffynonellau gwybodaeth ar iechyd rhywiol sy’n targedu gwahanol grwpiau.  Mae’n hanfodol bwysig fod gwybodaeth o’r fath yma yn cael ei deilwra’n briodol ar gyfer y gynulleidfa a dargedir a’i bod ar gael ar sawl ffurf hygyrch.  Gall technegau marchnata cymdeithasol ddarparu ffordd effeithiol o sicrhau fod negeseuon iechyd rhywiol yn cael eu targedu at y gynulleidfa gywir, yn y man cywir, ar yr amser cywir, a thrwy’r dulliau cywir.

Mae perthynas ac iechyd rhywiol yn agweddau pwysig o les cyffredinol.  Lle bo hynny’n briodol, dylid chwilio am gyfleoedd i hyrwyddo ac integreiddio manteision perthynas rywiol bositif o fewn i negeseuon lles cyffredinol.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyllido’r Prosiect Gwybodaeth a Chyngor Cenedlaethol ar gyfer pobl 11-25 oed, ClicOnline (www.cliconline.co.uk) a bydd yn gweithio gyda’r Prosiect fel modd o ddarparu gwybodaeth iechyd rhywiol hygyrch.”

 

Tra bod sefydlu porth penodol i’r diben hwn ar y we yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol, mae’n gwbl annigonol.  Mewn termau ymarferol, mae’r lefel o wybodaeth sydd ar gael i fyfyrwyr yn ardaloedd mwyaf gwledig Cymru yn dal i fod yn anaddas ar gyfer myfyrwyr LHDT, yn arbennig gan yr ymddengys fod hyn i raddau’n deillio o ddiffyg dealltwriaeth ynglŷn â phobl LHDT.  Mae yno felly angen am ymagweddiad wedi ei theilwra’n arbennig.

 

Awgrymiadau a Ffyrdd Ymlaen

 

Mae fferyllfeydd cymunedol wedi eu lleoli ar draws Cymru gyfan, ac maent yn y sefyllfa orau i ddarparu cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i unigolion, lle nad oes adnoddau a gofal penodol ar gael mewn mannau eraill.  Mae’n hanfodol felly fod fferyllfeydd cymunedol yn darparu gwybodaeth ynglŷn â lles ac iechyd rhywik'>ŷn â phobl LHDT.  Mae yno felly angen am ymagweddiad wedi ei theilwra’n arbennig.

 

Awgrymiadau a Ffyrdd Ymlaen

 

Mae fferyllfeydd cymunedol wedi eu lleoli ar draws Cymru gyfan, ac maent yn y sefyllfa orau i ddarparu cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i unigolion, lle nad oes adnoddau a gofal penodol ar gael mewn mannau eraill.  Mae’n hanfodol felly fod fferyllfeydd cymunedol yn darparu gwybodaeth ynglŷn â lles ac iechyd rhywiol ar gyfer pobl anghyfunrywiol a LHDT fel ei gilydd er mwyn hwyluso dosbarthu gwybodaeth wedi ei thargedu ledled Cymru.  Byddai hyn, yn ei dro, yn cyfrannu at leihau risg o ledaenu Heintiau a Chlefydau a Drosgwlyddir drwy Ryw yng Nghymru, yn arbennig ymhlith pobl LHDT.

 

Mae angen i’r gwasanaethau a gaiff eu darparu i ddilyn nifer o argymhellion:

 

 

 

Galw am ymchwil ychwanegol

 

Mae astudiaeth a gynhaliwyd gan Stonewall ac UCLAN, sy’n dwyn y teitl Inside Out, yn amlinellu materion cyffredinol parthed ­â mynediad i ofal iechyd ac yn benodol iechyd rhwyiol i bobl LHDT yng Nghymru.

 

Nododd y rheiny a ymatebodd ei bod “yn anodd cael gafael ar orchuddion ceg …. bu rhaid i ni ymbil ar y clinig GUM i gael rhai”

 

Mae’r papur hwn yn argymell:

 

Mae tystiolaeth answyddogol gan fyfyrwyr yng Nghymru hefyd yn awgrymu fod yno nifer o faterion na ymdrinir â hwy ar hyn o bryd parthed ag iechyd rhywiol myfyrwyr LHDT.  Mae’r iaith a ddefnyddir yng Nghynllun Iechyd a Lles Rhywiol ar gyfer Cymru 2010-2015 ei hun yn ymddangios fel pe bai’n tagedu materion sy’n wynebu pobl anghyfunrywiol yn bennaf, ar wahan i gyfeiriad at HIV, sy’n ymddangos i fod yn ymagweddiad byr-dymor.

 

Mae yno deimlad clir nad oes digon o ymchwil wedi cael ei wneud i’r bwlch yma, a bod angen edrych ar yr effaith ar les myfyrwyr LHDT ar un llaw, a’r gost bosibl i’r GIG ar y llaw arall, yn arbennig parthed â phobl LHDT.

 

Gwybodaeth Bellach

 

Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru

http://wales.gov.uk/topics/health/improvement/index/sexualhealth/?lang=en

 

Adroddiad Stonewall

http://www.stonewall.org.uk/cymru/english/what_we_do/research_and_policy/insideout_project/default.asp

 

Adroddiadau a gynhyrchwyd gan UCM ar faterion gofal iechyd ymhlith myfyrwyr LHDT

http://www.nusconnect.org.uk/resources/lgbt/LGBT-Healthcare-Briefing-on-Domestic-Violence/

http://www.nusconnect.org.uk/resources/lgbt/Hidden-Marks-LBT/